Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
6 Rhagfyr 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4664
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd cwestiynau 1, 3–9 a 11-12. Tynnwyd cwestiwn 2 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 10. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip ar ôl cwestiwn 3.
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Yn dilyn y diweddaraf mewn cyfres hir o gyhoeddiadau am gau banciau lleol, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru’n eu cymryd i gyflwyno banc cyhoeddus yn unol ag ymchwil gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru?
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (atebwyd gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi sicrwydd bod Pinewood yn parhau i fod wedi'i ymrwymo'n llawn i barhau i weithredu ei stiwdio gyfredol yng Nghymru yn sgil y diffyg gwybodaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i gyfres o gwestiynau ysgrifenedig ar y mater hwn?
Gofyn i Brif Weinidog Cymru (atebwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig)
David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ohirio pwerau ynni newydd o dan Ddeddf Cymru 2017?
Dechreuodd yr eitem am 15.41
Gwnaeth Jane Hutt ddatganiad i nodi 10 mlynedd o fodolaeth y Garreg Rhodd Bywyd yng Nghaerdydd.
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad i nodi 70 mlynedd ers Adroddiad Beveridge.
Gwnaeth Llyr Gruffydd ddatganiad i goffáu marwolaeth Llywelyn ap Gruffudd yng Nghilmeri ar 11 Rhagfyr 1282.
Dechreuodd yr eitem am 15.45
NDM6596 David Melding (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i gynyddu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud polisi yng Nghymru.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.10
NDM6604 David J. Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-781 Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar’ a gasglodd 8,791 o lofnodion.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.04
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM6605 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Chatalonia sy'n dyddio o'r 1930au yn ystod rhyfel cartref Sbaen.
2. Yn nodi pleidlais Senedd Catalonia i gynnal refferendwm ar ymreolaeth.
3. Yn gresynu at ymateb llawdrwm Llywodraeth Sbaen a'i phenderfyniad i gadw rhai o gynrychiolwyr etholedig Catalonia yn y ddalfa.
4. Yn cefnogi hawl seneddau yn yr Undeb Ewropeaidd i wneud penderfyniadau ar gyfer dyfodol eu dinasyddion.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
14 |
12 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.37
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6606 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y bydd y cyfnod hawlio o chwe wythnos ar gyfer pobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yn achosi caledi yn ystod cyfnod y Nadolig.
2. Yn ailddatgan bod diffyg sylfaenol yn y system credyd cynhwysol.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau lliniaru i gyflymu taliadau credyd cynhwysol, ac osgoi cosbau, dros gyfnod y Nadolig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ofyn am yr un cyfrifoldeb gweinyddol dros nawdd cymdeithasol â'r hyn sydd gan Lywodraeth yr Alban.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
6 |
38 |
54 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y cefnogir yr egwyddor tu ôl i gredyd cynhwysol yn eang, gan ddarparu'r cymorth cywir i geiswyr gwaith, ac wrth gwrs gan roi gofal priodol yn ei le ar gyfer pobl na allant weithio.
2. Yn croesawu'r pecyn eang a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU i ymdrin â phryderon ynghylch y newid i gredyd cynhwysol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
42 |
54 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod, pe bai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol heb gyllid ychwanegol sylweddol gan y Deyrnas Unedig, y byddai hyn yn faich ariannol newydd ar Lywodraeth Cymru ac y byddai’n arwain at ddisgwyliadau, na ellir eu cyflawni, y gallai Llywodraeth Cymru fforddio gwneud taliadau mwy hael i hawlwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
31 |
1 |
22 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6606 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y bydd y cyfnod hawlio o chwe wythnos ar gyfer pobl sy'n hawlio credyd cynhwysol yn achosi caledi yn ystod cyfnod y Nadolig.
2. Yn ailddatgan bod diffyg sylfaenol yn y system credyd cynhwysol.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau lliniaru i gyflymu taliadau credyd cynhwysol, ac osgoi cosbau, dros gyfnod y Nadolig.
4. Yn cydnabod, pe bai Llywodraeth Cymru’n cymryd cyfrifoldeb am weinyddu nawdd cymdeithasol heb gyllid ychwanegol sylweddol gan y Deyrnas Unedig, y byddai hyn yn faich ariannol newydd ar Lywodraeth Cymru ac y byddai’n arwain at ddisgwyliadau, na ellir eu cyflawni, y gallai Llywodraeth Cymru fforddio gwneud taliadau mwy hael i hawlwyr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
22 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.07
Dechreuodd yr eitem am 18.09
NDM6601 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Galw ar feddygon teulu i ymgymryd â sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 ymysg plant a phobl ifanc
Daeth y cyfarfod i ben am 18.32
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Rhagfyr 2017